Aelod o adran y Baritoniaid

  1. Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?

Ces i fy magu yn Aberystwyth.  Fe dreuliais i dros ugain mlynedd yn astudio ac yn gweithio yn Lloegr ac ar y cyfandir, ond wastad gyda’r gobaith o ddychwelyd i Gymru pan ddeuai’n bryd i fagu plant – ac wedi cyfarfod â Rhian, fy ngwraig, dyna beth ddigwyddodd.

  1. Beth yw dy atgof cynharaf?

Methu gweld pys yn glir ar fy mhlât un amser cinio.  Arweiniodd hynny at flynyddoedd o wisgo sbectol ddu NHS a phlastar mawr dros fy llygad chwith, fel rhyw fath o fôr-leidr truenus, i geisio cywiro llygad diog.  Embarrassing uffernol i blentyn!

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Annibynnol.  Teg.  Rhyngwladol.  

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Fy sedd debenture yn y Stadiwm, ychydig funudau cyn gêm yn erbyn un o’r mawrion.  Mae’r awyrgylch yn drydanol a’r gefnogaeth yn angerddol.   

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Dwi’n rhy hoff o win coch.

  1. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?

Pobl afresymol.

  1. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Fe lwyddais i i basio prawf gyrru motobeic ym Mrwsel, ond dwi ddim wedi bod yn ddigon dewr i brynu un eto!

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Richard Branson.  Es i i gyfarfod eitha swreal gyda chyn-gosmonaut yn ei dŷ yn Holland Park. 

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Foie gras a gwydryn o Sauternes; stêc fillet gwaedlyd gyda gwin coch o Bordeaux; ac i orffen Café Gourmand.

Byddai’r pryd mewn rhyw dref hynafol yn ardal y Dordogne gyda fy rhieni, oedd wrth eu boddau yn Ffrainc a sydd bellach wedi’n gadael.

  1. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Wrth feicio ar lonydd tawel cefn gwlad, neu badlo kayak ar hyd arfordir Sir Benfro gyda’r teulu.

  1. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?

Dix Pour Cent (Call My Agent); Narcos: Mexico; ac Arfordir.

  1. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?

Fe wnaeth llyfr Mario Vargas Llosa, The War of the End of the World (La guerra del fin del mundo), argraff fawr arna’i flynyddoedd yn ôl.  Roedd yn un o’r pethau wnaeth f’ysgogi i ddysgu Sbaeneg a threulio pedwar mis yn teithio yn Ne America ar ôl gadael coleg.  

Yn y Gymraeg, fe wnes i fwynhau dau lyfr wedi eu seilio ym Meirionnydd, ble mae cysylltiadau teuluol dwfn: O Tyn y Gorchudd (sy’n cyfeirio at fy nhaid, rheithor Mallwyd, mewn un olygfa); a Sgythia.

  1. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Requiem gan Mozart.  Dyna’r darn cyntaf i mi ei ganu mewn côr, yn y coleg.

  1. Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?

Mynd i eirfyrddio yn Japan, ble, gobeithio, bydd fy merch hynaf wedi llwyddo i gael swydd fel hyfforddwraig sgio.

  1. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Gareth Davies.