1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes
Wrthi mi ysgrifennu’r pwt yma rhaid cydnabod fy mod i wedi bod yn lwcus iawn trwy fy mywyd … yn y lle iawn ar yr amser iawn. O ddyddiau ysgol hyd fis Ebrill 2023 dw i wedi cael amrywiol brofiadau a gyrfa o weithio yn y diwydiant teledu lle roedd cyfle i arbrofi, creu ac arwain sawl prosiect heriol.
Mab fferm Llwyniolyn, Cefnddwysarn,Y Bala ydw i. Ces addysg yn ysgol gynradd Y Sarnau (24 disgybl) ac yna yn Ysgol Y Berwyn, Y Bala. Roedd Y Berwyn yn cychwyn fel ysgol gyfun yn dilyn cau hen ysgol ramadeg Tŷ Tan Domen. Roedd yn adeilad newydd gyda neuadd a llwyfan a goleuadau. Dan arweiniad athrawon ifanc llawn syniadau ces gyfle i ganu ac actio mewn sawl cynhyrchiad yn amrywio o ‘Amlyn ac Amig’ a ‘West Side Story’ I’r ‘Pirates of Penzance’ gan Gilbert a Sullivan. Ces y brif ran, Fredric, a Mabel oedd yr actores Olwen Medi.
Ymlaen wedyn i Goleg Y Drindod, Caerfyrddin i astudio Celf a Drama. Yno yn 1972 roedd criw talentog gan gynnwys Cleif Harpwood, Iestyn Garlick, Cefin Roberts ac roedd mynd mawr ar gymdeithasu yn nhafarn Y Ceffyl Du a chanu caneuon gwerin. Roedd y grŵp Ac Eraill wedi ei ffurfio gan Iestyn, Cleif, Phil Edwards a Tecwyn Ifan ond pan gafodd Cleif y cynnig i ganu ychydig o roc a rôl gydag Edward H Dafis fe ymunais i a John Morgan (mandolin a ffidil) gydag Alun Sbardun Hughes i ail wampio Ac Eraill. Yn 1974 daeth prosiect ‘Nia Ben Aur’ i lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin a daeth grwpiau Ac Eraill, Edward H, Hergest, Sidan a Heather Jones at ei gilydd i berfformio’r opera roc gyntaf yn y Gymraeg. Cymrais ran mewn sawl opera roc wedi hynny gan gynnwys y cynhyrchiad proffesiynol ‘Dic Penderyn’ gan Meic Stevens/Rhydwen Williams/Geraint Jarman ar lwyfan y Theatr Newydd, Caerdydd.
Yn Ebrill 1979 chwaraeais ran ‘Jiwdas’ ym mherfformiad Theatr Ieuenctid Yr Urdd a fu’n teithio ar hyd ac ar led Cymru. Ond erbyn hyn roeddwn wedi penderfynu nad oeddwn am fod yn actor proffesiynol a dyna gychwyn ar yrfa tu ôl i’r camera yn y BBC yn Llandaf.
Ces bedair blynedd hapus yn y BBC ac yna HTV fel rheolwr llawr cyn cychwyn gyda chwmni adnoddau teledu Barcud yng Nghaernarfon. Ar ôl tair blynedd symudais i weithio gyda Wil Aaron ac Ifan Roberts (tad Gareth Roberts T1) ar gyfres Hel Straeon fel cyfarwyddwr am gyfnod. Roeddwn wedi ffurfio cwmni cynhyrchu ac wedi cael comisiwn i gynhyrchu cyfres ‘Glas y Dorlan’ (comedi wedi ei lleoli mewn swyddfa heddlu) ond doedd Geraint Jarman ddim ar gael am gyfnod i chwarae’r brif ran. Yn wynebu cyfnod heb waith daeth cais gan Euryn Ogwen Williams, pennaeth rhaglenni S4C, i hyfforddi tri o newydd-ddyfodiaid yn adran gyllid S4C sut i ddadansoddi sgript, creu cyllid ac amserlen ffilmio ac ôl-gynhyrchu.
Roedd Geraint Stanley Jones, prif weithredwr S4C ac Euryn Ogwen wedi penderfynu bod angen rhaglen fyw nosweithiol i apelio at Gymry Cymraeg y Gorllewin. Ar ran S4C roeddwn yn cynghori cwmni ‘Sylw’ oedd wedi derbyn y comisiwn ar gyfer sut a phwy i gyflogi ond fe wnaeth cadeirydd Sylw, Ron Jones gynnig swydd i mi i wneud y gwaith go iawn yn hytrach na’i gynghori fe, Rhodri Williams a Glynog Davies.
Ar 26 Ionawr 1990 cychwynais ar y gwaith o drawsnewid adeilad gwag yng nghanol Abertawe i fod yn stiwdio deledu a oedd yn cyflogi 74 o bobl ac yn dechrau darlledu rhaglen newydd o’r enw ‘Heno’ ar 17 Medi 1990. Roedd angen cael penseiri, adeiladwyr, staff cynhyrchu a thechnegol at ei gilydd mewn 8 mis. Roedd hwn yn gyfnod hynod o uchelgeisiol ar y pryd ond fe lwyddon ni ac fe ddarlledon ni ar yr union ddiwrnod ac amser yn unol â’r cytundeb.
Mae’r rhaglen a’r cwmni wedi symud erbyn hyn i hen adeilad Tesco yn Llanelli ac wedi hen ennill eu plwyf gan ychwanegu cyfresi fel Prynhawn Da, Ralio, Sgwrs Dan y Lloer at arlwyi S4C. Gwnaeth cwmni Sylw droi yn Agenda ac erbyn hyn yn Tinopolis sydd yn fam gwmni i is-gwmnïau yn Llundain, Glasgow ac yn Los Angeles.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Bod yng nghanol llwyth o wair rhydd a ddisgynnodd ar fy mhen ar ôl i’r trelar foelyd! Roeddwn i a fy nhaid Hugh Jones ar ben y cyfan pan aeth fy nhad yn rhy agos at garreg ac aeth olwyn y trelar drosti. Dw i’n cofio taid a nhad yn tyrchu ynghanol y gwair rhydd yn chwilio amdana i. Hwn oedd un o’r troeon olaf i ni gario gwair rhydd nôl i’r tŷ gwair. Daeth contractwr i wneud byrnau bach wedi hynny!
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair
Hapus, lwcus a phositif.
4. Hoff le yng Nghymru?
Arbennig o hoff o ardal Pontgarreg , Llangrannog a Thresaith
Dramor
Dim amheuaeth – Yr Algârf, Portiwgal ac yn arbennig Moncarapacho a thraeth Fuzeta ynghyd â Rio Formosa y parc cenedlaethol sydd fel ein parciau cenedlaethol ni yma yng Nghymru.
5. Oes gennyt unrhyw arferion drwg?
Oes – gadael pethau fel ateb yr holiadur yma tan y funud olaf.
6. Beth sy’n dy wylltio?
Pobl sy ddim yn gwrando ar gyfarwyddyd. (Neges i’w gyd-aelodau yn y ‘top tenors!? – gol.)
7. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Roeddwn i yn un o wyth myfyriwr yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd oedd yn astudio ôl-radd mewn perfformio ym myd drama. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r coleg gynnal cwrs yn y Gymraeg. Ein tiwtor oedd Owen Garmon
Erbyn diwedd y cwrs roeddem wedi cyd-ysgrifennu dwy sioe a daeth Wilbert Lloyd Roberts, cyfarwyddwr Y Theatr Genedlaethol i’r coleg i weld perfformiad o’r sioeau yma cyn diwedd y cwrs. Cynigiodd swydd i ni gyd ond roeddwn wedi derbyn swydd fel athro celf am flwyddyn yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Felly roeddwn wedi troi fy nghefn ar berfformio. Aeth Siôn Eirian, Cefin Roberts, Mei Jones, Wyn Bowen Harries a Sian Morgan ymlaen i berfformio ar draws theatrau Cymru ac fe gymerodd Iestyn Garlick fy lle i yn y cynhyrchiad.
Ar ôl blwyddyn o ddysgu cefais waith fel ymchwilydd ar raglen ‘Bilidowcar’. Hyn oedd dechrau fy ngyrfa ym myd teledu. Ar ôl 47 mlynedd o weithio yn y diwydiant fe wnes i ymddeol fis Ebrill 2023.
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Pan oeddwn yn gweithio i HTV roeddwn yn rheolwr llawr pan gynhaliwyd cyngerdd Dydd Gŵyl Ddewi ar lwyfan Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.
Yno roedd Syr Geraint Evans yn cyflwyno a pherfformio. Roedd presenoldeb llwyfan a llais rhyfeddol ganddo er ei fod yn dod i ddiwedd ei yrfa fel canwr opera. Bachan neis iawn iawn.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy fyddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Gyda’r teulu ym mwyty Antonio’s yn yr haul fin nos yn nhref Moncarapacho, Yr Algârf.
Cig eidion ‘Bife na Pedra’. Coginio’r cig ar slab o garreg chwilboeth a photel o win coch ‘Dao’ neu ‘Douro’.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Ceisio cerdded am awr a hanner i ddwy awr bob dydd ar hyd yr amrywiol lwybrau cerdded yng ngogledd Caerdydd. Dwi’n dilyn rygbi a thîm Caerdydd a hefyd newydd fuddsoddi mewn beic newydd. Fy anrheg ymddeol i fi fy hun!
11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Hawdd – gwylio Heno a Ralio ac wrth gwrs Elin Fflur yn cyflwyno Sgwrs dan y Lloer. Fel arfer rygbi ar S4C, rhaglenni dogfen Simon Reeve ar ei wahanol deithiau ar draws y byd ac unrhyw raglen am y tywydd a newid hinsawdd.
12. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)
Ar hyn o bryd ‘Tryweryn A New Dawn’ gan Dr Wyn Thomas. Hefyd cyfrol Dylan Arnold, ffotograffydd o Lanrug sy’n cynnwys hanes manwl y trigolion ynghyd â’r lluniau o’r adeiladau yn y llyfr ‘Cymru Gudd’.
Ar wyliau llyfr ditectif gan Jo Nesbo
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Anodd ond efallai ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor sy’n faled am ei ewythr Ifan Y Fet o’r Bala, fet oedden ni ei adnabod yn dda. Dw i’n mynd nôl yn aml at ganeuon Meic Stevens o sioe ‘Dic Penderyn’. Rwy’n hoff iawn o David Gilmore a Pink Floyd, Moody Blues a Phill Collins. Dilyn perfformwyr fydda I yn hytrach na hoffi caneuon unigol.
Mae cantorion cyfoes Cymraeg gwych o Gaerdydd hefyd, sef Lily Beau (cyn-ddisgybl o Ysgol Plasmawr) ac Elin Parisa Fouladi (cyn-ddisgybl o Ysgol Glantaf).
14. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Annibyniaeth i Gymru.
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Alun Wyn Bevan