1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.

Ces i fy ngeni yn Llundain yn 1961. Roedd Dad o Faenclochog yn Sir Benfro, a Mam yn wreiddiol o Bontrobert, yn ferch i weinidog. Fe gwrddon nhw pan oedd Taid yn weinidog ar Hen Gapel, Maenclochog. Mae gen i ddau frawd iau, sef Alwyn a Gareth, y ddau yn byw nawr yn Swydd Efrog gyda’u teuluoedd.

Yn y 60au roedd Mam a Dad yn rhedeg B&B yn Sussex Gardens yng nghanol Llundain. Roedd Hyde Park, Selfridges a gorsaf Paddington i gyd o fewn pellter cerdded o gatre’. Es i i Ysgol Gymraeg Llundain rhwng 4 a hyd at 7 oed, pan oedd yr ysgol yn Willesden Green. Pan o’n i’n 8 oed symudon ni i fyw i Pinner yng ngogledd-orllewin Llundain a bu’n rhaid i mi symud i Ysgol Cannon Lane a wedyn i Ysgol Ramadeg Pinner. Roedd y teulu yn aelodau o Gapel y Tabernacl, King’s Cross yng nghanol Llundain. 

Ar ôl gweithio am gwpwl o flynyddoedd es i i’r coleg ym Mhontypridd, Polytechnig Cymru gynt, a chael gradd mewn astudiaethau cyfrifiaduron. Treulies i’r drydedd flwyddyn yn gweithio i gwmni gwasanaethau cyfrifadurion yn Hemel Hempstead, felly nôl i fyw ‘da Mam yn Pinner, a mynd unwaith eto i Gapel King’s Cross a Chanolfan Cymry Llundain. Dyma pryd gwrddes i â Bethan a oedd yn astudio meddygaeth yn Ysbyty Sant Bartholomew yng nghanol Llundain.

Graddion ni’n dau yn 1987, priodi yn Llandygwydd, Ceredigion yn 1988 ac yna symud i fyw i Letchworth, Hertfordshire. Roeddwn i nôl yn gweithio yn Hemel Hempstead erbyn hyn a Bethan yn gweithio ac yn hyfforddi fel meddyg teulu. Symudon ni i Gaerdydd yn 1991 i fagu teulu, gyda Geraint a Catrin yn cyrraedd yn 1991 a 1992, ac Aled yn ymuno â ni ar ôl i ni symud i’r Creigiau yn 1996. Ro’n i’n gweithio i’r BBC yn Llandaf fel systems analyst a Bethan yn feddyg teulu. Ar ôl gadael y BBC gweithies i i Hyder a wedyn i gynghorau lleol fel business analyst a rheolwr project. O 2014 roeddwn i’n rheolwr ar feddygfa yng Nghaerdydd cyn ymddeol llynedd.

Pan o’n i’n 18 gwnaeth Dad (baswr da) a finne ymuno â Chôr Meibion Gwalia yng Nghanolfan Cymry Llundain ar Grays Inn Road a chanes i gyda nhw hyd at 1991. Yn drist iawn bu Dad farw yn 1983 yn 55 oed.

Yn Llundain ro’n i hefyd yn canu gyda’r corau cymysg roedd Gwawr Owen yn eu ffurfio i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ddechrau yn Eisteddfod Llanbed yn 1984. Yn 1992 sefydlodd Gwawr Gôr Caerdydd ac roedd Bethan a finne yn aelodau gwreiddiol fu’n cystadlu yn Eisteddfod Aberystwyth. Mae’r ddau ohonom yn dal yn aelodau o Gôr Caerdydd 30 mlynedd yn ddiweddarach! Mae Geraint, Catrin ac Aled i gyd yn gerddorol (llawer mwy cerddorol na fi!), a’r tri wedi canu gyda ni yn y côr.

Bu Rob Nichols yn cyfeilio i Gôr Gaerdydd am sawl blwyddyn felly pan ddechreuodd Rob Gôr Meibion Taf penderfyniad hawdd iawn oedd ymuno â’r côr a mynd nôl i fyd y corau meibion. 

  1. Beth yw dy atgof cynharaf?

Gwylio angladd Churchill ar y teledu pan o’n i tua tair a hanner. Yr unig ran dw i’n cofio’n iawn oedd symud yr arch i’r cwch ar yr afon Tafwys ar ôl y gwasanaeth.

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Lwcus.

Tawel (ond yn gallu bod yn swnllyd)

Call (ond gyda’r gallu i fod yn ddwl ar adegau hefyd)

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Bae Caerdydd a Seland Newydd, gwlad hyfryd i deithio.

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Gadael pethau fel papurau newyddion a llyfrau, mewn pentyrrau o gwmpas y tŷ. Hefyd canu neu wneud rhyw fath o swn (ee. drymio gyda bysedd, chwibanu) yn aml iawn.

  1. Beth sydd yn dy wylltio?

Bagpipes

Y Pren Ar Y Bryn

Gwleidyddion sydd ddim ond yn edrych ar ôl eu hunain ac yn dweud celwydd.

  1. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Yn 2008 roedd y Cwmni Opera Cenedlaethol (WNO) yn perfformio Aida gan Verdi. Mae’r rhan fwyaf o’r opera yn ‘love triangle’, ond am hanner awr mae tua 140 ar y llwyfan ac yn canu’r corws mawr. Roedd y WNO wedi recriwtio cantorion amatur i ganu rhan ‘y bobl’ ac wrth gwrs roedd digon o sopranos, altos a baswyr gyda nhw, ond roedden nhw yn ddigon desperate i adael i fi ganu gyda’r tenoriaid! Profiad gwych a bythgofiadwy. Gyda llaw, nid fi oedd yr unig aelod o Gôr Meibion Taf yn y corws, roedd yna un baswr dewr hefyd – Myrddin.

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Lynn ‘the leap’ Davies, enillydd medal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964. Roedd Lynn yn digwydd bod yn siarad gyda hen ffrind o Lundain pan o’n i’n cerdded drwy fynedfa yr Eisteddfod Genedlaethol. 

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Stecen gyda saws pupur, sglodion a phys, a mynydd o hufen iâ i ddilyn. Bethan a’r teulu wrth gwrs, a Cliff Morgan, Richard Burton, Alistair Cooke, Richard Feynman, ac Eleanor o Aquitaine.

  1. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Mae bod yn aelod o ddau gôr yn mynd â thipyn o amser. Rwy’n mynd i’r gampfa sawl gwaith yr wythnos, a llynedd, ar ôl ymddeol, dechreues i chwarae golf. Yn anffodus i olffwyr Creigiau, dw i wedi ymuno â’r clwb, ac mae angen llawer o ymarfer a gwella arna’ i.

  1. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?

Hoff iawn o thrillers ar y teledu, yn enwedig genre y Scandi Noir – The Killing, The Bridge, Borgen a.y.y.b, ond falle taw fy hoff gyfres oedd The West Wing.

  1. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?

Cymysgedd o thrillers, (mae llyfrau Ken Follett yng nghyfres ‘The Pillars of the Earth’, a’r drioleg ‘Fall of Giants’ yn wych), llyfrau hanes (Andrew Marr, Antony Beever), a ‘gwyddoniaeth boblogaidd’ (llyfrau Richard Feynman, Simon Singh).

  1. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Dewis anodd! Falle deuawd Pearl Fishers? Rwy’n hoff iawn o gerddoriaeth boblogaidd gyda sain mawr cyfoethog fel ELO, Queen a Meatloaf (Bat Out of Hell). Y penderfyniad – Pearl Fishers gyda Jussi Björling a Robert Merrill yn ddeuawdwyr.

  1. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?

Rhoi bus pass am ddim i bawb o dan 25 oed. Rwy’n credu bydde hwnna yn help mawr i bobl ifanc Cymru i deithio i’r gwaith a hefyd i fynd mas yn y nos, gyda llai o geir ar yr hewl o ganlyniad. Wrth gwrs bydde angen bod digon o fysiau yn rhedeg er mwyn i hyn weithio!

  1. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Elgano!