- Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Ces i fy magu yn Llanboidy ac es i i ysgol Llanboidy County Primary (fel wedd hi’n cael ei galw bryd hynny) a wedyn Ysgol Ramadeg Hen-dy-Gwyn ar Daf. Es i weithio i gwmni adeiladu yn syth o’r ysgol, a symud i Gaerdydd ganol y 60au. Rwyf wedi treulio rhan fwyaf o fy mywyd gweithiol fel rheolwr gwerthiant dros Brydain, i gwmnioedd cynhyrchu cerrig â rhinweddau arbennig. Ymddeolais yn llawn yn 2019.
‘Rwyn briod â Ray ac yn byw yn Nhonteg, yn dad i ddwy groten. Mae Manon yn gweithio fel meddyg teulu mas yn Perth Awstralia ar hyn o bryd, ac mae Luned, sydd yn gweithio fel cynhyrchydd i gwmni Rondo, yn byw ym Mhontypridd ac yn fam i Gwenno a Meriel.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Whare dan bont afon Gronw yn treial dala pysgod.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cydwybodol Gonest Trefnus
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Cwm yr Eglwys, a Rio de Janeiro
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Rwy’n ddiamynedd
- Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Pobol sydd yn hwyr
- Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Sa i’n gallu mofiad (gol: nofio)
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Oes na bersonau mwy nodedig na aelodau CMT?
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Stecen ffiled a sglodion, tarten fale a cwstard tene, a digon o Chateauneuf du Pape.
Os nad yng nghwmni’r teulu yna gyda
Elvis, Delme Thomas a Jethro
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Lan ar y rhandir neu lawr yn y garafan.
- Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Tales of the Unexpected, ffilmie cowbois
- Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Glossary of the Demetian Dialect, gan W Meredith Morris.
Dan Brown a Frederick Forsyth
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Rhywbeth ‘da Mozart
- Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Gallu mynd dramor unwaith eto, yn bennaf i Perth i weld Manon ac Ed.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Goronwy Jones (Gogs)