- Rho beth o’th gefndir a’th hanes i ni
Ces i ngeni yn Oldham yn Ionawr 1963 i Rosina Stockton, fy mam. Ond nid ei gŵr hi oedd fy nhad. Lew Simms oedd e, dyn o Jamaica. Roedd Henry, gŵr Rosina yn fodlon aros gyda hi, ond doedd e ddim am gadw’r babi. Felly ar ôl fy ngenedigaeth ces i fy symud i gartre plant o’r enw ‘The Home of the Good Shepherd’ ar Clyne Common, Abertawe.
Arhoses i fanna tan o’n i’n 4 oed, pan ddaeth teulu caredig iawn o Lanilar a’n achub i o’r cartre. Merch o’n nhw eisiau, ond fe wnes i eu perswadio nhw i fynd â fi! A byth ers hynny Mollie a Trebor Pughe yw Mam a Dad. Roedd pedwar o blant gyda nhw’n barod – William, Margaret, Siân a Catherine. Dw i mor ddiolchgar iddyn nhw, mae’n anodd iawn i’w ddisgrifio.
Ar ôl fy nghael i aeth Mam a Dad nôl i ‘The Home of the Good Shepherd’ i nôl dau blentyn arall – Melina a Richard. Roedden ni’n byw fel teulu hapus iawn ym Mhlas Llidiardau, rhyw filltir tu fas i Lanilar. Roedd ceffylau, geifr, ieir a 34 erw o goed i chwarae ynddyn nhw. Yr holl gefn gwlad o gwmpas – o’n i wrth fy modd.
Fe es i ysgol Llanilar – lle gwnaeth Elgano redeg y cwrs beicio cycling proficiency. Wedyn i Ysgol Uwchradd Tregaron. Erbyn hyn roeddwn i yn deall a siarad Cymraeg yn eitha da. Roedd Dad yn dod o Aberystwyth ond o deulu di-Gymraeg, ac roedd Mam yn dod o Whitburn, pentre bach ger Sunderland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. Cwrddon nhw pan oedd Dad gyda’r RAF yn ystod yr ail ryfel byd, cyn iddo fynd draw i Burma. Felly roedd y plant i gyd yn siarad Cymraeg.
Fe dafles i fy hunan i fywyd cefn gwlad trwy fynd o fferm i fferm yn helpu gyda’r cneifio, codi bêls, tatws a gwneud pob math o waith. Ar ôl gadael yr ysgol fe es i fyw am dipyn yn Brynchwith, fferm fy mrawd yng nghyfraith – honno oedd fy swydd gyntaf.
.Wedyn ces i sawl job trwy’r ‘youth opportunities scheme’ – un yn gweithio yn Eglwys Fach yn y warchodfa RSPB. Erbyn hyn roeddwn i yn byw mewn bed-sit yn Aberystwyth ac yn chwarae rygbi dros y tîm ieuenctid a hefyd dros Sir Benfro. Wnes i ddim dysgu llawer yn yr ysgol, ond o’n i’n dda mewn chwaraeon – yn enwedig rygbi a rhedeg y 1500 metr.
Dechreues i chwarae rygbi bob dydd Mercher i heddlu Dyfed-Powys, a dechreuon nhw ofyn i fi ymuno â’r heddlu. Doedd yr heddlu ddim yn rhywbeth o’n i wedi meddwl amdano, ond ar ôl bod yn y coleg yn Colchester a wedyn mynd o swydd i swydd yn Aber doedd dim llawer o opsiynau ‘da fi.
Ar ôl cyflwyno cais i heddluoedd Dyfed Powys a De Cymru fe es i i Paddington am gyfweliad gyda’r Met. Cwpwl o wythnosau cyn mynd fe ges i anaf cas wrth chwarae yn erbyn Cwins Caerfyrddin. Fe ges i fy mwrw yn anymwybodol a llynces i ‘nhafod. Diolch byth am Tom Jones, Cwmbrwyno, a achubodd fy mywyd i, trwy dynnu ‘nhafod i mas. Nid y paratoad gore ar gyfer cyfweliad! Roedd dal clais cas ar fy ngwefus i ac roeddwn i hefyd yn gwisgo shwmper clwb rygbi Aberystwyth – doedd dim arian ‘da fi i brynu siwt!
Yn Hydref 1983 cerddes i trwy’r gatiau yn Hendon – ysgol hyfforddi Heddlu’r Met, a wedyn yn Ebrill 1984 mas â fi i strydoedd Hammersmith. Fe wnes i chwarae llawer o rygbi, y gêm gyntaf dros y trydydd tim gyda chefnwr o’r enw John Gallagher. Gadawodd e’r heddlu i symud i Seland Newydd a chyn bo hir roedd e’n chwarae i’r Cryse Duon. Yr ail reng oedd Paul Ackford a Martin Bayfield – y ddau ‘na’n eitha handi hefyd! Roedd llawer o Gymry yn y Met, gan gynnwys John Jones o Gaerfyrddin – y ddau ohonon ni yn denu sylw wrth gerdded o gwmpas marchnad Shepherds Bush yn siarad Cymraeg!
Bob yn ail flwyddyn bydden ni’n teithio dramor am dair wythnos i lefydd fel Vancouver, California, Arizona, De Affrica, Ynysoedd Cayman, Awstralia. Hefyd wrth chwarae a thrafaelu bob yn ail benwythnos dros Loegr doedd dim llawer o amser i wneud y gwaith o’n i fod ei wneud! Fe es i Swydd Efrog yn ystod streic y glöwyr, ond ar ôl dweud wrth y glöwyr fod fy nau dadcu yn gyn-löwyr wnaethon nhw ddim fy mhoeni.
Roedd clybiau pêl-droed Chelsea, Fulham a QPR ar ein milltir sgwâr ni, profiad hollol wahanol o fod yn y Crossville End, Parc Avenue, Aberystwyth! Y Shed (Stamford Bridge) oedd waethaf, gyda chefnogwyr hiliol y National Front.
Fel heddwas ar ôl dwy flynedd ar y beat,symudes i i wneud gwaith ymchwillio ar ôl digwyddiad lle cafodd Edmund Owusu ei saethu point blank yn ei goese. Finne oedd yr heddwas cyntaf i gyrraedd ato. Bu e farw, a dyw’r drwgweithredwyr ddim wedi cael eu dal hyd heddi. Fe weithies i ar sawl llofruddiaeth gas yng ngorllewin Llundain wedi hynny.
Yn ystod yr adeg hon fe brynes i feic mynydd. Doedd dim llawer i’w cael yn yr wythdegau, ond yn 1988 fe benderfynes i a bachgen arall o Stanley, Newcastle upon Tyne, adael yr heddlu a mynd am dro ar ein beics ni. Doedd dim syniad ‘da ni ble o’n ni’n mynd, ond fe aethon ni i Andorra a chael swydd mewn gwesty yn Arinsal yn ystod y tymor sgïo. Wedyn i ogledd Sbaen, lle ces i waith fel DJ mewn bar am dipyn, a wedyn drosodd i Morocco, Algeria a lawr dros y Sahara trwy Niger a Nigeria. Ar ôl chwe mis o fyw mewn pabell, roedd John wedi cael digon ac fe ddaethon ni nôl ar ôl blwyddyn o deithio.
Yn 1989 ces i swydd yn yr adran morgeisi yn Citibank yn Llundain, ond ar ôl tipyn fe wnes i sylweddoli nad oedd gwaith swyddfa yn fy siwto i, ac fe es i nôl i’r Met, i weithio yng ngorsaf heddlu Marylebone ger Oxford Street. Ar ôl cyfnod bach gyda chlwb rygbi Cymry Llundain, fe es i nôl i chwarae gyda’r Met. Roedd teithio yn dal i alw hefyd – ac fe wnes i gwpwl o deithie hir ar y beic, unwaith trwy Fietnam ac wedyn trwy Guatemala a Belize.
Roeddwn i’n bwrw ymlaen gyda’r swydd ac yn dilyn cwrs i fod yn dditectif. Ar yr un pryd dechreuais i wneud gwaith undercover – yn prynu cyffuriau ar y strydoedd mewn llefydd fel Brixton a Hackney ac mewn clybiau nos. Daeth hwnna i ben pan wnaeth rhywun roi dryll wrth fy mhen a dwyn fy arian i gyd a’r ‘crack cocaine’ o’n i newydd ei brynu! Ces i amser gwych ar y robbery squad, cops ‘n robbers go iawn am gwpwl o flynyddoedd, ac wedyn ar ôl hyfforddi fel ditectif fe es i i Notting Hill fel DC.
Roedd llawer o’n ffrindie i o Aberystwyth wedi symud i Lundain hefyd, ac roedd Nos Sadwrn jyst fel cerdded mewn i’r Ship and Castle yn Aber. Un diwrnod roedden ni i gyd mewn gŵyl wyddelig ym Mharc Finsbury pan gwmpodd merch dros ein cwrw ni. Ar ôl ei helpu hi i godi (Gaynor John o Bont oedd y ferch) fe wahoddodd hi ni i barti yn Battersea mewn cwpwl o wythnosau. Fe droies i lan yn hwyr ar ôl gêm ac yn y fan honno fe gwrddes i â Mared Rhys, o Ystrad Meurig, jyst lan yr hewl o Lanilar. Roedd hi yn gweithio mewn ysbyty yn Llundain.
Dechreuon ni fynd mas ‘da’n gilydd am dipyn, ond wedyn cafodd hi swydd yn Bermuda. Ar ôl iddi hi ddod nôl dechreuon ni eto. Erbyn hyn roedd hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd – a finne’n teithio nôl a mlaen o Lundain.
Yn 1999 cymerais i ‘career break’ ac fe deithiodd Mared a fi rownd y byd am flwyddyn. Yn 2000 es i nôl i’r Met ac aeth Mared nôl i Gaerdydd. Gwerthes i fy fflat yn Llundain ac ar ôl cyfnod o deithio rhwng Caerdydd a Llundain fe wnes i drosglwyddo i Heddlu De Cymru yn 2001 a dechre nôl mewn iwnifform yn Nhredelerch (Rumney).
Priododd Mared a finne yng Nghapel Soar y Mynydd a symud i dŷ yn Nhreganna. Fe es i nôl at waith ditectif ac i’r CID yn Y Barri. Roedd pawb yn dweud wrtha i ei fod e’n lle caled ond, a dweud y gwir, ar ôl Llundain roedd hi’n dawel iawn.
2003 – Lleucu Grug yn cael ei geni.
Symudais i o’r Barri i’r Adran Troseddau Mawr yng Nghaerdydd yn gweithio ar lofruddiaethau ar draws de Cymru.
2004 – Macsen Rhys yn cael ei eni.
2006 – symud i Benarth.
2008 – Caleb Meurig yn cael ei eni.
Fe weithies i ar draws de Cymru a hefyd nôl yn Aberystwyth am dipyn ar achos April Jones. Roedd hwn yn amser trist iawn wrth gwrs, ond i fi, hwn oedd yr unig gyfnod o fod yn yr heddlu pan o’n i’n teimlo ‘mod i’n perthyn i’r bobol leol.
Yn 2016 ces i’r cyfle i weithio ar secondiad i’r Princes Trust gan roi cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, wrth fynd â nhw i gerdded, canẅio, beicio mynydd, dringo a phob math o weithgareddau eraill.
Yn 2017, ar ôl 32 o flynyddoedd gyda’r heddlu roedd hi’n amser i ymddeol. Yn ffodus iawn fe wnaeth y Princes Trust ofyn i fi aros, ac rwy’n dal i weithio gyda nhw yn llawn amser.
Fe wnes i barhau i chwarae rygbi dros y Met Vets a Heddlu Caerdydd, gan chwarae fy ngêm olaf pan oeddwn i’n 52 – poenus iawn! Nawr dw i’n hyfforddi tîm dan 16 Penarth, yn cefnogi’r Sgarlets ac yn ‘siarad gêm dda’ ar ôl sawl peint o Guinness.
Rwy’n dal i feicio – ar y ffordd a’r mynyddoedd. Dw i wedi gwneud yr Étape du tour (rhan agored y Tour de France) gyda Gwyn Roberts (bariton), fy mrawd yng nghyfraith sydd hefyd perthyn ar ochor Dad. Mae Eirlys, mam Gwyn yn gyfnither i Trebor, fy nhad.
Mae gen i fab arall yn Llundain o’r enw Joshua, ac mae e a’i bartner Maria newydd gael babi o’r enw Nestor – rwy’n ystyried fy hun yn dadcu ifanc!
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Dwyn cardigan Mollie (Mam). Ar ôl mynd am bythefnos i Lanilar am gyfnod prawf es i nôl i’r cartre yn Abertawe er mwyn i Mam a Dad gael amser i wneud penderfyniad. Cyn gadael fe wnes i ddwyn y gardigan gan ddweud, ‘pan fyddwch chi’n dod nôl i gasglu hon, plîs ewch â fi hefyd’.
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Fi yw hwn.
4. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru/yn y byd?
Bod nôl yn Llanilar, cerdded lawr at yr afon a dros y bont grog, neu lan i Meillionnen gyda golygfa dros y pentre ac ar ddiwrnod clir yr holl ffordd hyd at Eryri.
5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Gofynnwch i Mared
6. Beth sydd yn dy wylltio?
Pobol hiliol
7. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Fe wnes i brawf DNA ddwy flynedd nôl. Ar ochor Rosinna rwy’n 43% Albanwr a 7% Llychlynwr. Ar ochor Lew rwy’n 31% Nigerian a’r gweddill o Orllewin Affrica fel Benin & Togo, Cote Ivoire a Senegal.
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Dwi wedi chwarae pêl-droed 5-bob-ochor gyda George Best!
Unwaith mewn gêm bêl-droed rhwng QPR a Nottingham Forest, fe ddiffoddodd un set o lifoleuadau. Cafodd y gêm ei chanslo ond doedd cefnogwyr Forest ddim yn hapus ac o’n nhw eisiau dod i’r cae. Fe ddaeth Brian Clough mas i geisio’u tawelu nhw, ond fe wnaeth e bethe’n waeth! Gofynnes iddo fod yn dawel, ond ar ôl iddo fe weiddi ‘f*** off’ sawl gwaith, fe wnes i ei arestio fe am ‘ymddygiad a geiriau bygythiol’. Doedd e ddim yn hapus!
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn.
Os taw brecwast yw e – ffrwythe, grawnfwyd, iogwrt a mêl. Neu i ginio/swper – eog, tatws newydd gyda menyn a mintys, broccoli a pys neu gyri poeth – vindaloo.
A’r cyfan yng nghwmni Mollie, Trebor, Rosinna a Lew.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden.
- Beicio – ffordd, mynydd a graean (gravel)
- Padlfyrddio sefyll lan (stand up paddleboarding) – fe wnes i’r afon Tywi o Lyn Brianne i Gaerfyrddin haf diwetha. Tipyn o her, yn enwedig lawr i Lanymddyfri.
- Nofio yn y môr, mewn afonydd a llynnoedd
- Cerdded – gwnes i’r 15 copa llynedd
- Coginio
- Darllen
- Gwrando ar fiwsig a mynd i gigs gyda Gwyn
- Gwylio rygbi
- Teithio gyda Mared a’r teulu
11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Black Mirror yw un o fy hoff gyfresi. The Sopranos, rygbi a beicio. Rwy’n trïo osgoi rhaglenni heddlu ond mae cymaint ar gael!
12. Beth yw dy hoff lyfrau. Pwy yw dy hoff awduron
Llyfrau hanesyddol – rwy’n darllen llyfr David Olusoga am bobl ddu ym Mhrydain ar hyn o bryd. Mae’n ddiddorol iawn.
Ffuglen – Murakami, Will Self, Salman Rushdie, Marlon James, Colson Whitehead.
Ffeithiol – llyfrau am rygbi, beicio, teithio a goroesi fel Ranulph Fiennes
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
CD newydd Côr Meibion Taf
14. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Gwasanaeth gwell i bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl.
Mwy o ffyrdd i feics yn unig.
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur nesaf?
Un o’r aelodau ifanc newydd!