Aelod o’r Ail Denoriaid
- Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Mab ffarm o Llanrhaeadr yn Nyffryn Clwyd. Taith bell lawr i’r coleg yng Nghaerdydd, ac wedi aros yma byth ers hynny! Dwi’n byw yn Llandaf gyda’m gwraig Gail a’r plant, Gruff a Cari. Dwi’n llawfeddyg colorectal yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Arogl a swn y moch ar y ffarm. Lyfli!
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Prysur, ffysi, caredig.
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru?
Dyffryn ‘clodfawr’ Clwyd
Yn y byd?
Ar ben unrhyw lethr sgio yn yr Alpau.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Methu rhoi y peiriant golchi ymlaen!
- Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Baw cwn.
- Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Roedd Charles Evans (bron â bod y cyntaf i gyrraedd Everest) yn hen hen ewythr.
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Rhys ab Owen.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Scallops, sirloin steak Cymreig, syrup sponge Mam. Gwin Bordeaux drud.
Gareth Edwards, Christian Barnard, Tudur Owen, Sharon Morgan.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Rhedeg ar ol y plant/ y wraig etc. Cerdded y ci. Torri’r lawnt. Prynu gwin neis.
- Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Masterchef, The Bridge, Line of Duty.
12. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Darllen Private Eye a journals llawfeddygol. Dim ond yn darllen llyfrau ar wyliau; mwynhau cofiant Melvyn Bragg o Richard Burton.
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Unrhyw album gan The Killers
14. Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Meddwi gyda ffrindiau. Hefyd, sefyll wrth ochr cae rygbi yn cefnogi’r mab neu Clwb Rygbi Cymry Caerdydd.
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Gareth Humphreys (Tenor 1).