- Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Ces fy ngeni yn y Rhondda a’m magu yn y Rhondda Fach gan fynychu Ysgol Gymraeg, Pontygwaith ac Ysgol Gyfun Rhydfelen. Wedyn es i ffwrdd i’r coleg yn Aberystwyth cyn dychwelyd i ddysgu Ffiseg yn Rhydfelen. Priodais gyda Rhiannon a daethom i fyw ym Mhentre’r Eglwys ac rydym yma o hyd!
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Dyddiau cynnar ysgol gynradd yn 3 oed yn gorfod adrodd Gweddi’r Arglwydd o flaen y dosbarth yn fy nhro a chysgu yn y prynhawn mewn stordy dywyll ar hen welyau cynfas dan flancedi gwlan pigog.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Hapus. Cymhedrol. Teyrngar.
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Tŷ Ddewi.
Yn y byd? Llynnoedd Gogledd yr Eidal
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Gohirio tasgau (gan gynnwys dysgu geiriau!)
- Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Pobl sy’n brolio eu bod yn wael ym mathemateg!!!
- Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Roedd fy mamgu, Olwen yn gyfeilyddes i Gôr Meibion Pendyrus. Roedd Dad yn cofio Mansel Thomas yn dod i’r tŷ i weithio ar drefniannau. Ni etifeddais eu dawn – saith mlynedd o wersi, dim un tystysgrif! (gweler ateb 5)
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Islwyn Ffowc Elis (Gweler ateb 12)
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Pysgod ffres a sglodion gyda’r hwyr mewn pentref ar lan môr gyda’m teulu.
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Garddio yn yr ardd a’r rhandir.
- Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Marcella. The Crown. Call my Agent.
- Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Cysgod y Cryman. Ar fy ngwyliau rwy’n hoff o ddarllen Thrillers (John Grisham, Ruth Rendell …) wrth ymyl y pwll nofio.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Baker Street, Gerry Rafferty
- Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Cael teulu agos ac estynedig ynghyd. Ymweld â gwyliau RHS, Y Gelli, Eisteddfod.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Ade (Tenor 1)