Mai 3-5 2024
Y daith i Newquay
Mae Côr Meibion Taf wedi profi cryn lewyrch ers dyddiau tywyll y pandemig. Cynyddodd nifer yr aelodau, gwellodd ansawdd y lleisiau a chryfhaodd y sain. Ac erbyn hyn mae ‘na gryn edrych ymlaen at y daith flynyddol. Llynedd, lan â ni i Ynys Bute a Chaeredin ac eleni lawr â ni i Gernyw i gymryd rhan yng Ngŵyl Corau Meibion Ryngwladol ein brodyr a’n chwiorydd Celtaidd. Cawn fanylu ar y gweithgareddau cerddorol yn nes ymlaen ond eisoes fe ddatblygodd y daith fws ei hun yn un o elfennau chwedlonol y bererindod.
Mae’r daith yn gyfle i’r bechgyn ddod i adnabod ei gilydd yn well, wrth reswm, ond gwêl y trefnydd, ein hysgrifennydd digymar, y cyfnod ar y bws fel un i hogi ein hawch cystadleuol trwy ddarparu cyfres o heriau a thasgau uchelgeisiol.
Boed yn gystadlaethau llenyddol neu fathemategol, neu’n bosau posib a chwbl amhosib eu datrys, gwnaed ymdrech arwrol unwaith eto eleni i’n paratoi ar gyfer yr hyn oedd yn ein hwynebu ar lwyfannau Cernyw.






Dyma oriel o luniau pencampwyr rhai o dasgau’r daith yn derbyn eu gwobrau gan ein cadeirydd Rhodri.
Dewisodd awdur y frawddeg ar y gair CERNYW ddatgelu ei natur wylaidd gyda’r ymdrech fuddugol hon: ‘Côr, er Reynolds, nid yw wan!‘ Llongyfarchwn Huw yn wresog.
Y brif gystadleuaeth i’r beirdd oedd llunio limrig yn cynnwys y llinell, ‘Bant â’r côr ar fws Lance i Truro’. Daeth y tair ymdrech isod i’r brig yn dilyn beirniadu a phleidleisio hynod ddemocrataidd gan yr holl deithwyr.
Bant â’r côr ar fws Lance i Truro,
Y cwis yn profi mod i’n ‘thico’;
Ta waeth am y sgôr
Mae’n amser i’r côr
I ganu a joio y vino!
Tom Guy (enw ynte ffugenw?)
Bant â’r côr ar fws Lance i Truro,
Mynd am sbel ac yna stopo;
Roedd Colin yn fud
‘Rhyw nam dyna i gyd’,
Ond och! Ga’th y meic diawl ei drwsio!
Gwyn Hughes Jones (gydag ymyraethau cyson Eifion Thomas)
Ond, mae golygydd gwefan CMT yn hynod falch i gyhoeddi taw’r limrig arobryn hwn a ddaeth i’r brig y tro hwn.
Bant â’r côr ar fws Lance i Truro,
A thrwy lwc doedd y meic ddim yn gweithio;
Roedd hi’n hyfryd o dawel,
Ces sgwrs braf ‘dag Arwel,
Cyn i’r mecanic droi lan yn Gordano!
Gosteg (sef Hywel, golygydd y wefan)
Y perfformiadau
Nos Wener 3 Mai am 7.00 y.h. Cyngerdd Gala yn Eglwys St Michael, NEWQUAY
Roedd hi’n hyfryd cael rhannu llwyfan gyda chorau o Henffordd, Weybridge (Surrey), Innsbruck (Awstria) a Newquay ei hun yn yn ein cyngerdd agoriadol. Eglwys braf, acwsteg ardderchog a chynulleidfa werthfawrogol iawn. Fe wnaeth yr wylan wen a oedd wedi ymgartrefu yn nho’r eglwys hyd yn oed fynegi ei gwerthfawrogiad ar sawl achlysur yn ystod y noson!




Dydd Sadwrn 4 Mai am 14.00 y.p. Cyngerdd awyr agored yng Ngerddi TREBAH
Roedd rhaid teithio o arfordir gogleddol Cernyw i dde’r sir ar gyfer ein hail ymddangosiad yn y gerddi godidog hyn ger Falmouth. Diflannodd y cymylau i adael awyr las a haul cynnes ar gyfer y cyngerdd awyr agored hwn yn amffitheatr hardd Trebah.



Nos Sadwrn 4 Mai am 7.00 y.h. Cystadlu yn Eglwys Gadeiriol TRURO
Siwrne fer o’r gerddi i brif ddinas Cernyw ar gyfer prif berfformiad y daith, sef y gystadleuaeth i gorau Categori 1 yr ŵyl. Mae’r gadeirlan wych yn teyrnasu dros y ddinas braf hon. Llongyfarchwn Gôr Meibion Peterborough ar ennill y gystadleuaeth ac ymfalchïwn yn ein perfformiad a’r trydydd safle. Gellir gwylio’r gystadleuaeth ar ei hyd wrth ddilyn y ddolen hon (Côr Meibion Taf sy’n canu gyntaf).




Afraid dweud y manteisiwyd yn fawr ar y cyfle i ymlacio yn dilyn y perfformiad hwn!
Dydd Sul 5 Mai am 13.00 y.p. Cyngerdd yn Killacourt, NEWQUAY
Ac yn ôl i Newquay i gwblhau’r penwythnos prysur hwn o ganu a chymdeithasu corawl. Mae Killacourt yn llecyn hardd iawn gyda digonedd o dir gwyrdd, bandstand ar gyfer y perfformiad, a thraeth Towan yn gefndir syfrdanol. Ein braint ni oedd cloi y cyngerdd hwn yn yr awyr agored braf brynhawn Sul. Diweddglo cofiadwy i benwythnos llwyddiannus a chofiadwy iawn yng Nghernyw.

