Lansio ein halbwm newydd ‘Gwahoddiad’

Mae cyngerdd Nadolig Côr Meibion Taf wastad yn achlysur i’w fwynhau ond roedd arwyddocâd arbennig i’r cyngerdd eleni wrth i’r côr lansio albwm newydd, Gwahoddiad, ar 7 Rhagfyr. Cynhaliwyd y cyngerdd yn Eglwys St John’s, Treganna gyda chôr Ysgol Treganna a’r mezzo-soprano ifanc o Benarth, Llinos Haf Jones yn westeion arbennig. Roedd yn anrhydedd fawr i’r côr rannu’r llwyfan gyda’r artistiaid lleol, hynod ddawnus hyn. 

Mae Eglwys St John’s yng nghalon cymuned Ysgol Treganna wrth gwrs a chyd-ddigwyddiad hyfryd eleni oedd mai hwn oedd cyngerdd olaf Rhys Harries cyn iddo ymddeol fel pennaeth yr ysgol ar ddiwedd y tymor. Dan arweiniad Bethan Mair Roberts talodd y disgyblion deyrnged gerddorol wych i’w prifathro a’n hatgoffa pam fod yr ysgol wedi bod yn fagwrfa eithriadol i berfformwyr ifanc dros y blynyddoedd.

Mae Llinos Haf yn prysur wneud enw iddi hi ei hun ar lwyfannau Cymru a thu hwnt ac fe gofiwch mai hi enillodd Gwobr Goffa Osborne Roberts – Y Rhuban Glas – yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan eleni. Dymunwn yn dda iddi a gobeithiwn gynnal y berthynas rhyngddi a’r côr yn y dyfodol.

Llinos Haf Jones

Rhannwyd elw’r noson gydag elusen Pancreatic Cancer UK er cof am un o hoelion wyth Côr Meibion Taf, Gary Samuel. ‘Bachan triw, ffyddlon fel ffrind, gonest ei deimladau a didwyll ei deyrngarwch’. Hyfryd oedd cael cwmni Beth ac aelodau o deulu Gary yn y gynulleidfa ar y noson.

Gary Sam yn ei afiaith gyda’i gyfeillion yn CMT

Y cyngerdd hwn oedd penllanw ac uchafbwynt blwyddyn brysur a llwyddiannus yn hanes Côr Meibion Taf. Yn ogystal â recordio’r albwm mae uchafbwyntiau 2023 yn cynnwys y daith i Ynys Bute a Chaeredin ym mis Chwefror a pherfformiad cofiadwy yn y Theatr Newydd ym mis Tachwedd fel rhan o bodlediad byw ‘the Geraint Thomas Cycling Club‘. Ond efallai taw’r llinyn mesur pwysicaf o lwyddiant y flwyddyn yw’r twf diweddar yn aelodaeth y côr a’r cynnydd arwyddocaol yn nifer y cantorion ‘ifanc’ sydd wedi ymaelodi â ni. 

Mae’r côr yn ddyledus unwaith yn rhagor i’n harweinydd, Steffan Jones a’n cyfeilydd, Lowri Guy ac yn diolch o galon am eu gwaith diflino ac amyneddgar a’u hysbrydoliaeth ar bob adeg.

Mae Côr Meibion Taf yn dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb ac edrychwn ymlaen ‘â ffydd yn ein cân’ at 2024!