Baritôn / Cadeirydd y côr
Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Ces fy ngeni yng Nghaerdydd amser maith yn ôl. Canu yng nghôr Alun Guy yn yr Aelwyd ac erioed wedi mo’yn canu mewn côr meibion.
Beth yw dy atgof cynharaf?
Clywed y coliars yn cerdded i Bwll y Maindy uwchben Matexa Street yn Ton Pentre.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dedwydd. Cymdeithasol. Boring.
Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Y caffe bach ar y traeth yn Llanbedrog ar ddiwrnod tawel.
Yn y byd? Venice.
Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Diogi.
Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Rhagrith a lleisiau rhy uchel rhai pobol (gwell peidio manylu).
Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
William Thomas, sylfaenydd Côr Meibion Brenhinol Treorci oedd fy hen
dadcu.
Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Dr Terry Waite.
Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi
rhannu’r pryd hwn?
Stecen Asgwrn-T a sglodion (ond cig o wartheg duon Cymreig) a rhyw bedair potel o win coch pinotage, Parrot Fish (un yr un)
Yng nghwmni Iolo Morgannwg, Dafydd ap Gwilym, Cynan (am y craic)
Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio
dy amser hamdden?
Darllen, olrhain hanes y teulu a gweithio ar y tŷ (DIY)
Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu
gwylio?
Spooks (eto). Bloodlands, Sgwrs dan y lloer.
Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Does dim hoff lyfr ‘da fi. Mae’n dibynnu ar y “mood”. Hoff awdur? –
ystod eang iawn, o Ddafydd ap Gwilym i Phylip Kerr a Dewey Lambdin.
Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar
ynys bellennig?
“Meillionen” (enw’r alaw a’r ddawns).
Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei
wneud fwyaf?
Cael peint mewn tafarn gyda chyfeilion hoff cytûn a chwtsh gan rywun.
Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Gary Samuel (baswr)